4. Eglwys Beuno Sant - Aberffraw

Unusual Crucifix

Cyflwyniad

Wrth unrhyw safon mae eglwys Beuno Sant yn Aberffraw yn hynod o drawiadol ac yn hynod o bwysig. Gydag Aberffraw wedi bod yn llys brenhinol, Llys Tywysogion Cymru roedd yr eglwys yn rhan bwysig o’r 'Faerdref' neu’r ystâd.

Sefydlwyd yn wreiddiol yn gell grefyddol gan Beuno Sant yn y 7fed ganrif. Adeiladwyd yr eglwys gyntaf o garreg yma yn y 12fed ganrif ac mae rhan fawr o’r adeilad hwnnw’n byw ymlaen yn y bwa o garreg cerfiedig anghyffredin sydd wedi ei osod yn union wrth y fynedfa. Mae hefyd yn ffodus i roi cartref i gasgliad gwych o wydr lliw.

Ymweliad

Ceir man parcio yn union o flaen y giatiau sy’n arwain i’r fynwent. Mae’r cyngor lleol wedi darparu arwyddion wedi eu darlunio’n dda wrth y giatiau yn disgrifio’r eglwys, y llys brenhinol gerllaw a’u hanes, sy’n wir yn werth eu darllen!

Wrth gerdded i’r fynwent mae llawer o’r cerrig beddau hyn yn awr wedi eu gosod yn wastad ar South side of the churchgyfer eu hamddiffyn ac mae’n werth oedi am funud i nodi rhai o’r dyddiadau. Mae wal yr eglwys ar y dde i chi yn cynnwys gwaith cerrig o’r 12fed ganrif ac mae’n arwain at y porth cyfoes, ac yn union o’i flaen ceir y gofadail syml ond drawiadol, i bobl leol sydd wedi marw yn gwasanaethu’r gwrthdaro niferus.

Wrth fynd i mewn i’r eglwys  y peth cyntaf y byddwch yn sylwi arno  yw ei bod wedi ei rhannu’n ddwy gan gyfres fawreddog  o fwâu  yn dyddio’n ôl  i’r 16eg ganrif.  Mae cymeriad pob hanner yn ddigon gwahanol i hyn i bron deimlo fel  dwy wahanol eglwys, pob un gyda’i eil ei hun. Os trowch i’ch chwith  wrth fynd i mewn  byddwch yn dod ar draws  bedyddfaen canoloesol gwych  wedi ei fframio gan fwa bendigedig o’r 12fed ganrif (ar y pen ar y chwith), wedi ei gerfioâ sieffrynau a phennau anifeiliaid  credir mai hwn oedd  bwa’r Gangell o gerrig yr eglwys wreiddiol.  Darganfuwyd yr em hon yn  1840  yn ystod  gwaith adfer.  

The North AisleYn ogystal â gwydr lliw ardderchog mae pibau’r organ sydd wedi eu haddurno’n hardd  yn werth eu gweld  fel ag y mae pâr ardderchog o rawiau casglu o bres sgleiniog.  Gyda’r dyddiad  1777  arnynt maent yn pwyso yn erbyn y wal drws nesaf i’r allor ar y llaw dde.

Ar ddiwrnod braf mae’n wir wrth mynd am dro o amgylch y fynwent ei hun. Mae i’r eglwys wynebwedd braidd yn agored sy’n esbonio’r rendr cyfoes ar y wal Ddwyreiniol, nid ei nodwedd wychaf, ond un angenrheidiol. Ceir golygfeydd gwych o’r twyni y tu allan i’r dref yn ogystal ag o’r eglwys ei hun. Mae’n werth nodi’r terfyniadau mawr ar ben tâl maen y to. Mae gan fframiau ffenestri allanol yr ochr Ogleddol hefyd bennau cerfiedig gydag addurn gwych.

Golygfeydd o Beuno Sant, cliciwch ar gyfer y darlun mwy

collecting shovels
organ pipes the two aisles the 12th century arch
   
view from the North
carved head
 

Crist y Brenin


Lleoliad

map

NGR: SH 353 688: Trowch i’r chwith  oddi ar yr A4080 i  bentref Aberffraw.  Trowch i’r chwith o flaen Swyddfa’r Post/siop y pentref, ac mae’r eglwys yn uniongyrchol o’ch blaen..

Mynediad:  Mae’r agoriad ar gael o Swyddfa’r Post/siop y pentref.
Mynediad Cadair Olwyn: Gweddol hawdd,  er bod y llwybr tuag at y drws  yn goleddfu tuag i fyny.
Amwynderau lleol: Mae gan Aberffraw ddwy siop bentref   gyfeillgar wedi eu stocio’n dda  un gyda  Swyddfa’r Post a ATM i’w ddefnyddio’n ddi-dâl. Mae ganddo hefyd dafarn leol boblogaidd, Y Goron. Ceir hefyd fan llogi beiciau a siopau  a llety ar gael   yn natblygiad newydd  Llys Llewelyn  yn y pentref.

Tra byddwch yn yr ardal

bryn celli dduDatblygiad cymunedol newydd yw Llys Llewelyn  gyda llety o ansawdd,  man llogi beiciau  a chrefftau lleol ar werth  yn union oddi ar y  A4080 yn Aberffraw  ei hun. Mae bwrdd wrth giât yr eglwys  yn rhoi cyfarwyddiadau  i safle hanesyddol llys brenhinol y Tywysogion gerllaw.  Barclodiad y GawresMae siambr gladdu Barclodiad y Gawres  ychydig bellter mewn car tua’r Gorllewin.  Mae’n un o’r cofadeiliau cynhanes pwysicaf ar Ynys Môn  sy’n enwog am ei gelfyddyd creigiau hynafol.  Gellir ei gyrraedd  drwy daith gerdded  ddramatig ar y penrhyn

Yn ymweld?  Gellwch lawrlwytho’r dudalen hon fel ffeil  .pdf  brintiadwy YMA (327 Kb)

Arosfan nesaf ar y llwybr >>>
Rhif 5: Cwyfan Sant

Gyda rhybudd ymlaen llaw mae modd y bydd yn bosibl  trefnu i eglwysi  fod ar agor i ymwelwyr  a threfnu tywyswyr ar gyfer partïon.

Gellir trefnu lluniaeth hefyd ar gyfer partïon.

Ar gyfer eglwysi 1-4, galwch 01407 840190 ~ Ar gyfer eglwysi s 5-9, galwch 01407 810412 neu 810448 neu ebostiwch YMA

 
 

-Byddai’r Cylch Celtaidd yn hoffi diolch i: -

Medrwn Mon EU logo Welsh Assembly Government

Malltraeth
Ymlaen

Ymddiriedolaeth Elusennol
Ynys Mon
Isle of Anglesey Charitable Trust