 |
|
9. Eglwys Peulan Sant- Llanbeulan |
 |
Cyflwyniad |
Nid ydych yn gyrru i’r eglwys hon, nid ydych hyd yn oed yn cerdded. Rydych yn cymryd rhan mewn gorymdaith. O fynd i mewn drwy’r giât fynediad rydych yn mynd am dro sy’n llawer hŷn na’r adeilad ei hun. Mae popeth ynghylch y daith i’r eglwys hon yn teimlo fel rhan o ddefod , ac un o’r gwobrau pan gewch yno yw gweld darn o hanes y dylid edrych arno yn un o 10 uchaf rhyfeddodau Cymru.
Y cyfan hynny a gellwch fynd am dro i ran o’r ynys nad yw’n adnabyddus iawn ac sy’n aruthrol o hardd hefyd... |
Ymweliad |
Wrth barcio ar ben y llwybr sy’n arwain i’r eglwys, gellir y byddwch ar y dechrau yn cael eich bwrw oddi ar eich echel gan y pellter, a’r mwd o amgylch y giât sy’n anodd ei hagor. Peidiwch â bod. Mae’r daith gerdded o oddeutu 200m ar sarn laswelltog sy’n edrych i lawr ar y caeau o ddefaid gyda’r eglwys bob amser o’ch blaen. Er iddi gael ei sefydlu yn 630OC, mae llawer o’r eglwys bresennol yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif, gydag ychwanegiadau mawr yn y 14eg ganrif, y 15fed a’r 16eg ganrif.
Mentrwch i’r tu mewn heb ei oleuo drwy Gapel y De o’r 14eg ganrif ac rydych yn teimlo eich bod wedi mynd i mewn i goden amser. Mae rhesi o gorau cefnsyth yn llinell yng Nghôr yr Eglwys o’r 12fed ganrif, yn wynebu Cangell gyda golau plwm plaen a chroes leiafsymiol hollol o’u blaenau. Bu i’r bwrdd cymun, yn drist, ildio i fandaliaid yn y 1990au. Mae panel yn un o’r seddau gerllaw yn cyhoeddi ei bod 'The seate of William Bold of Treyddol, Esquire 1664'. Powld yn wir i hawlio llain yn y lle hwn, a dwy flynedd ynghynt dinistriwyd Llundain gan ei 'dân mawr'. Yn werth ei weld hefyd, yn arbennig os oes gennych dywysydd sy’n gallu ei chanu yw’r organ wichlyd ysblennydd, er yn bersain, sy’n dyddio’n ôl i 1888 ac mae’n swnio’n wych hefyd, yn adleisio’r waliau hynafol hyn.
Wrth gerdded yn ôl i gorff yr Eglwys rydych yn mynd drwy’r rhesi o seddau nes yr ydych yn darganfod y bedyddfaen. Mae’r darn isel hwn o galchfaen yn ddarn rhyfeddol o hanes. Mae tair o’i bedair ochr wedi eu haddurno â cherfiadau, y ddau ben yn nodweddiadol, er eu bod yn gwahaniaethu’n fawr, o arddulliau celtaidd (uchod ar y dde), gyda’r prif banel mewn Romanésg. Mae’n hollol ryfeddol bod darn o’r fath yn dal yn ei le mewn eglwys bellennig ar Ynys Môn a heb ddiflannu heb adael ôl i amgueddfa ddienaid yn hollol ryfeddol. Mae hon yn wir ryfeddod Cymru.
Pan fyddwch yn teimlo eich bod yn gallu eich tynnu eich hun ymaith o’i thu mewn llawn awyrgylch cymerwch yr amser i gerdded yn araf o amgylch y fynwent ac edrych ar y lleoliad a pha mor dda y mae’n cyd-fynd. Un odiaeth olaf yw bod y gamfa o’r fynwent yn ôl i’r llwybr wedi ei gwneud o dameidiau o gofadeiliau carreg wedi eu cerfio mewn dyddiau cynnar .
Mae’r eglwys yn wir yn em anhysbys hanes Cymru. Ychydig, hyd yn oed ar Ynys Môn sy’n gwybod amdani, eto mae’n lle anghyffredin. Ewch i’r drafferth i ymweld a chael eich gwobrwyo gyda gem cywrain, hanes sy’n haeddiannol o’r amgueddfa wychaf mewn eglwys sy’n eistedd yn y gwychaf o’r wlad. Ers 2004 bu’r eglwys yng ngofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill.
|
Golygfeydd o Llanbeulan, cliciwch ar gyfer y darlun mwy
|
|
|
 |
 |
 |
|
|
|