 |
|
3. St. Cadwaladr - Llangadwaladr |
 |
Cyflwyniad |
Mae gan un o wir emau Ynys Môn, eglwys Sant Cadwaladr yr ydych yn ei gweld heddiw hanes hir a chymhleth iawn. Y tu mewn a’r tu allan mae trysorau i’w darganfod, yn cynnwys croes Geltaidd (gyfoes) (chwith) wedi ei cherfio’n ysblennydd
Mae ganddi hanes brenhinol yn dyddio’n ôl dros 1300 o flynyddoedd a pheth o’r gwydr lliw a’r cerfluniau carreg gwychaf y gellir eu gweld yng Nghymru, ac yn hawdd y set fwyaf fawreddog o giatiau o unrhyw eglwys ar yr ynys. |
Hanes byr |
Er bod rhan gynharaf yr eglwys bresennol (Corff yr eglwys) yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif, arferid cyfeirio ati fel yr Eglwys Ail - yr eglwys 'blethwaith', sy’n siarad am adeg lawer cynharach. Estynnwyd yr eglwys yn y 14eg ganrif gydag ychwanegu’r gangell bresennol (chwith).
Yn ogystal â chysylltiadau agos gyda’r llys brenhinol Cymreig yn Aberffraw, mae’r eglwys yn hanesyddol wedi ei chysylltu â dau deulu amlwg o Ynys Môn; Oweniaid Bodowen a theulu Meurig (Meyrick) Bodorgan. Mewn gwirionedd Richard Meyrick oedd yn gyfrifol am ychwanegu capel y gogledd yn 1640 (a ailadeiladwyd yn 1807 a’i adfer wedyn yn 1907). Yn 1661, daeth capel y de yn rhodd gan weddw’r Cyrnol Hugh Owen. Mae’r ddau gapel yn cynnwys cofadeiliau i’r teuluoedd a barodd eu hadeiladu yn eu tro.
Hyd y dydd sydd ohoni, mae’r eglwys wedi mynd drwy adferiad helaeth. Yn 2005-6, ychwanegwyd y to llechen trawiadol a chadw ac atgyweirio’r gwydr lliw yn helaeth yn ffenestr ddwyreiniol y gangell a chwblhawyd atgyweirio’r giatiau haearn anferth. Ariannwyd y gwaith yn bennaf gan Cadw, Cronfa’r Loteri Treftadaeth a Menter Môn. Mae gwaith i wella’r fynwent ac atgyweirio’r llwybrau troed ayyb ar hyn o bryd yn y cam cynllunio. |
Ymweliad |
Parciwch eich car yn y maes parcio bychan yn union y tu allan i’r giatiau trawiadol, gan gymryd amser i edmygu’r wynebau cerfiedig gwych o’i amgylch (darlun uchod ar y dde). Gan fynd drwy’r giatiau byddwch yn cael eich teimlad cyntaf bod hwn yn lle hanesyddol. Mae’r llwybr deiliog gyda chofadeiliau carreg mawr bob ochr iddo yn eich arwain yn uniongyrchol at y porth, gyda thu allan capel y de ar y dde i chi.
Mae mynd i mewn i’r eglwys fel mynd i mewn i drysordy pensaernïol. Wedi ei osod yn uchel yn y wal sy’n eich wynebu ceir carreg arysgrifedig yn coffáu’r brenin Cadfan o Wynedd, a fu farw oddeutu 625 ac a oedd yn daid i Sant Cadwaladr (y credir mai ef oedd Cadwaladr Fendigaid, brenin Cymreig olaf y Brythoniaid a fu farw yn 682 ac o’r hwn y disgynnai llinach y Tuduriaid).
Gan symud drwy Gorff yr eglwys sy’n agored ac wedi ei oleuo’n hardd rydych yn dod allan yn y Gangell. Yn uniongyrchol drawiadol mae’r allor gwefreiddiol a’r canhwyllyron gothig anarferol.
Mae i’r gwydr lliw o’r 15fed ganrif uwchben yr allor dri golau, ac o dan yr olygfa o’rcroeshoeliad yn y goleuni canol ceir ffigwr 'gwisg senedd' o Sant Cadwaladr ei hun. O dan y ffigwr o’r Santes Fair ceir ffigyrau o Feuric ap Llewelyn a’i wraig Margaret; ac o dan ffigwr Sant Ioan mae Owen ap Meuric a’i wraig Helen. Credir mai diolchgarwch ydyw am ddychweliad diogel eu mab o frwydr Bosworth yn 1485.
Gan symud yn ôl y tu allan i’r eglwys, trowch i’r dde fel yr ydych yn mynd allan o’r porth a cherddwch o amgylch y cefn. Fel yr ydych yn mynd heibio drws caeëdig a oedd yn fynedfa wreiddiol i Gorff yr eglwys gellir gweld croes Geltaidd fawr (darlun ar y pen ar y chwith). Adeiladwyd hon er cof am deulu Meyrick. Mae gan ben dwyreiniol y fynwent feddau gyda meini coffa gwych o aelodau o deulu Meyrick. Cymerwch amser i nodi ac admygu’r gargoiliau sy’n clwydo uwchben, gyda rhai ohonynt yn chwareus, ond yn ôl y chwedl roedd Draig Cymru ar y faner a gludid gan Gadwaladr. |
|
|