 |
|
6. St. Mary - Llangwyfan |
 |
Cyflwyniad |
Gall swnio’n groesddywediad, ond os fyth y gellid disgrifio eglwys yn 'fawreddog ar raddfa fechan' byddai’r Santes Fair, Llangwyfan yn cyfateb i’r disgrifiad Adeiladwyd hi yn 1878 fel eglwys yn lle’r 'Eglwys yn y môr' anffodus (Rhif 5 ar y llwybr). Mae’n sefyll yn eithaf balch yn ei mynwent a gedwir yn daclus.
Y tu mewn mae mewn gwirionedd yn teimlo’n hŷn na’i blynyddoedd, o bosibl oherwydd bod rhai o’r nodweddion wedi eu trawsblannu o’r eglwys wreiddiol, ond hefyd o bosibl oherwydd y gofal a dywalltwyd arni a chynhesrwydd ei chroeso. Mae hon yn eglwys hunan-hyderus ac yn wir yn werth ymweliad. |
Ymweliad |
Ceir man parcio yn y cae i’r dde o’r giât, ac ar ddiwrnodau gwlyb gallai fod yn werth ystyried parcio (gyda gofal) ar ochr y ffordd ei hun.
Adeiladwyd yr eglwys bresennol gan y penseiri Henry Kennedy a Gustavus Hamilton O'Donoghue i ailosod Cwyfan Sant a oedd yn dirywio’n ddrwg oherwydd erydu’r arfordir. Roeddent yn amlwg yn ‘chwarae’n ddiogel’ gan fod yr eglwys newydd dros filltir i mewn i’r tir! Wrth fynd i mewn i’r fynwent cewch eich ysgubo ar hyd llwybr troellog byr i’r Porth a thrwy ei ddrws mawr i’r tu mewn.
Y tu mewn, mae i Gorff yr Eglwys y rhwysg diymffrost y soniwyd amdano uchod. Mae ei chorau Fictoraidd gyda’u farnis tywyll yn cystadlu am sylw gyda’i do o drawstiau o goed a ffenestr gwydr lliw lachar uwchben yr allor. Pwysleisir yr effaith gyfan gan y carped coch, cynnes, di-staen ac addurnwaith blodau ffres.
Mae’r allor ei hun o bren wedi ei addurno’n weddol syml a chanllaw yr allor yr un modd. Ymhell o deimlo’n foel nid yw hyn ond yn ychwanegu at y teimlad hwnnw o hyder. Mae’r arysgrifiadau paentiedig ar waliau Gogleddol a Deheuol y Gangell yn werth eu nodi. Mae’r rhain yn darllen : 'Fy ngwaed i sydd ddiod yn awr' a 'Fy nghnawd sydd fwyd yn wir'
O droi’n ôl tuag at y drws ceir bedyddfaen plaen, angherfiedig gyda gorchudd pren addurniedig sy’n ymddangos yn llawer hŷn na’i leoliad. Wedi ei osod y tu mewn i gilfach fechan gerllaw ceir plac o bres arysgrifedig a charreg gerfiedig gyda’r dyddiad 1602, yn ôl pob tebyg o’r eglwys wreiddiol
Ewch tuag yn ôl i’r fynwent achos mae’n werth mynd am dro yn wir i edmygu maintioli’r adeilad a’i leoliad anghysbell, ac yn arbennig ei olygfeydd tuag at y môr a oedd yn ddinistriwr ei ragflaenydd.
|
|
|
|