 |
|
7. Eglwys Maelog Sant - Llanfaelog |
 |
Cyflwyniad |
Pan fyddwch yn siarad am bensaernïaeth eglwys, yn arbennig pan fyddwch yn ymdrin ag adeiladau hen neu bwysig iawn, mae gair sy’n ysgogi teimlad o suddo bron ar unwaith. Y gair yw wedi ei 'moderneiddio'. Mae rhith concrid o’r 1960au a mabwysiadu ffasiynau sy’n pylu’n gyflym wedi difetha llawer o adeiladau gwych.
Mae Maelog Sant wedi ei moderneiddio. Mae llaw ddeheuig wedi cynhyrchu eglwys sy’n drawiadol, yn llawen (eto’n dal yn barchus), yn hardd ac yn anghrediniol o gynnes. Mae hwn yn foderneiddio fel y dylai fod. Hon yw eglwys pren y bywyd. |
Ymweliad |
Edrychwch am yr arwyddion 'P' glas ar gyfer maes parcio bychan yn union oddi ar y gyffordd y tu allan i’r eglwys. Gellwch barcio ar ochr y ffordd, ond mae hyn o bosibl yn fwy diogel. Gellwch fynd i mewn i’r fynwent drwy un ai’r giât fechan sy’n uniongyrchol gyferbyn â mynediad y maes parcio (sy’n cynnwys rhes o risiau), neu o’r giât fwy i’r chwith i chi gyda ramp ac sy’n rhoi golygfa fendigedig o’r tu mewn fel yr ewch i mewn.
Adeiladwyd yr eglwys wreiddiol ar y safle hon yn 605 OC, ac roedd yn gapel anwes cysylltiedig â Llanbeulan. Mae’n symudiad diddorol mewn demograffeg bod Llabeulan yn awr yn lle marwaidd a thawel tra bo eglwys Maelog Sant yn ffynnu. Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1848 gan ddefnyddio arian gan Gwmni Rheillfordd Caer a Chaergybi a oedd yn adeiladu’r rheilffordd i borthladd Caergybi (roedd y rheilffordd yn rhedeg ar draws tir yr eglwys). Y penseiri oedd Henry Kennedy a Richard Kyrke Penson. (Mae’n rhaid bod hwn wedi bod yn ddewis eithaf eofn gan mai dim ond 33 ydoedd a’i fod yn fwy adnabyddus fel paentiwr (gan hyd yn oed sefydlu’r Gymdeithas Ddyfrlliw). Aeth yn ei flaen i gael gyrfa nodedig iawn fel pensaer eglwysig yng Nghymru, ac felly roedd yn ddewis doeth.)
Ymddengys craffter mewn dewis o benseiri i fod wedi bod yn arbenigedd gan y dewiswyd Adam Voelcker, pensaer o Ogledd Cymru (Tremadog) i atgyweirio’r eglwys yn 2001. Gan weithio gyda sgiliau arbenigol crefftwr lleol, saer dodrefn Colin Pearce, ganwyd y cysyniad o’r hyn sydd wedi dod yn Sant Maelog 'newydd'. Mae thema 'Pren y Bywyd ' wedi ei threiglo ar draws ffitiadau’r allor, yn cynnwys gosodiad sy’n drawiadol hardd ar gyfer bedyddfaen o’r 12fed ganrif a ddygwyd o Eglwys y Santes Fair Talyllyn (ar y pen ar y chwith), i sgrîn wydr fawr wedi ei hysgythru (gan Bill Swann o Borthmadog) sy’n rhannu â phalis Oriel Juniper uwchben Corff yr Eglwys. Mae’r eofn, mae’n gyfoes, ac mae’n gweithio.
Mae’r eglwys gyfan wedi ei charpedu drwyddi ac mae’r seddau’n gyfforddus ac yn helaeth. Ymhlith y nifer o ffenestri gwydr lliw nodedig mae’r darlun a adferwyd yn ddiweddar iawn o’r Swper Olaf sy’n edrych dros y Gangell yn wych. Mae darn cyfoes yn y gangell sy’n llai o ran maint, er nad mewn harddwch, ac sy’n sicr yn addas yn ei gyd-destun . Gwaith Tiffany Tate yw’r 'ffenestr gerdd' (chwith) , a gynlluniwyd gan wraig leol a ganai yn y côr yma ers pan oedd yn naw oed. Cymerwch funud i edrych i fyny i edmygu trawstiau’r to sydd wedi eu paentio’n llwyd.
Mae i’r fynwent rai nodweddion nodedig yn cynnwys 'elordy casgen' a gynlluniwyd i ddal gweddillion sy’n aros am eu hadnabod ar gyfer beddau llongddrylliadau i feddau dioddefwyr damwain awyr yn 1941.
Mae hon yn eglwys ryfeddol, wedi ei llunio’n hardd, a’i gweithredu’n fendigedig ac os oes arnoch eisiau gweld sut y gellir adfer adeilad gyda chydymdeimlad a theimlad, mae’n werth ymweld yn
|
|
|
|