 |
|
8. St. Mary's - Tal y Llyn |
 |
Cyflwyniad |
O weld yr eglwys nodedig hon yn ei lleoliad anghysbell a gwyntog rydych yn teimlo ei bod yn bodoli bron er ei gwaethaf ei hun. Mae’n teimlo fel pe bai dim byd o fewn can milltir a fyddai’n gwarantu cael eglwys yno, ond dyma hi.
Mae defnyddio’r gair ‘diymhongar’ i ddisgrifio ei thu mewn yn colli’r pwynt yn hollol. Mae hwn yn em o le dwfn a garw ei naddiad, yn hyderus, yn dawel, yn gynnil ac mae’n dawel wedi goroesi diffyg urddas a’r blynyddoedd i ddal i fod yn hyfyw. Mae hwn yn lle y mae’n rhaid i chi yn wir ymweld ag ef. |
Ymweliad |
Mae pris uchel ar le parcio a gall yn wir olygu cael llaid ar eich esgidiau. Peidiwch â gadael i hyn eich drysu. Wrth gerdded i’r fynwent wag a gwyntog mae’r eglwys hon yn edrych yn anaddawol iawn. Yn adeilad isel wedi ei adeiladu o garreg, yn blaen iawn gyda thŵr di-gloch gellid ei gamgymeryd am ysgubor neu gwt allan. Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn y 15fed ganrif gydag ychwanegiadau yn y 16eg a’r 17eg ganrif. Mae’r fynwent yn nodedig heb ddim cofadeiliau. Os cerddwch o amylch yr adeilad gellwch weld ei fod wedi ei adeiladu ar dwmpath bas oddeutu 120m ei gylchedd, gyda’r wal yn ei ddilyn yn rhannol. Mae’n werth hefyd cymryd golwg ar y mowldinau gwych o amgylch ffenestr y Gorllewin.
Mentrwch i mewn a byddwch yn deall y lle. Mae trawstiau garw yn cynnal to sy’n gorchuddio llawr cerrig llorio sydd yr un mor arw. Mae’r rhesi o gorau di-gefn yn wynebu cangell gyda goleuadau plwm plaen. Addurnir y bwrdd cymun gyda chroes blaen yn unig ac mae wedi ei amgylchynu gan ganllaw syml wedi ei baentio (dyddiedig 1764). (Mae’r corau’n gyfoes gan mwyaf, gyda’r rhai gwreiddiol wedi eu lladrata a’u llosgi gan fandaliaid yn yr 1990au. Caeodd yr eglwys oherwydd gormodedd yn 1992, ond mae yn awr yng ngofal Cyfeillion Eglwysi Di-gyfaill.)
Mae sylweddoli eich bod mewn lle heb drydan yn sydyn yn ei osod mewn cyd-destun. Mae gan bob côr ddaliwr golau nos talog, ac mae blodau’n tarddu o’r bedyddfaen ysblennydd o’r 15fed ganrif, sy’n edrych fel pe bai wedi gallu cael ei wneud ddoe. Mae’r hyn a allai fod yn drymaidd yn cael ei godi’n fyw. Mae hwn yn lle gwirioneddol hardd.
Mae cymaint o fanylion bychain i’w gweld, yr hanner bwa rhwng Corff yr Eglwys a’r Gangell, y canwyllbrennau ar y waliau, sedd fechan iawn y côr a’r pulpud ysblennydd o anghymesur.
Dyn lleol oedd fy nhywysydd a oedd wedi ei fedyddio yn yr eglwys hon, yn y bedyddfaen hwn. Siaradodd gyda hoffter mawr tuag at y lle, a thristwch mawr tuag at y rhai a’i triniodd mor angharedig wrth ei fandaleiddio, heb fymryn o chwerwder. Mae llawer wedi byw ar Ynys Môn drwy gydol eu bywydau heb fod ag unrhyw syniad bod y lle hwn yn bodoli, mewn gwirionedd. Ewch i’w weld drosoch eich hun.
|
Golygfeydd o Tal y Llyn, cliciwch ar gyfer y darlun mwy
|
|
|
|
 |
 |
|
|
|