 |
|
1. Eglwys Beuno Sant - Trefdraeth |
 |
Cyflwyniad |
Pe baech yn cynnal cystadleuaeth i gynllunio’r 'eglwys wledig' glasurol byddai Beuno Sant Trefdraeth yn ennill o filltir wledig.
Wrth ddynesu ati ar hyd ffordd wledig dawel o bentref Bethel rydych yn cyrraedd mewn maes parcio eang. Ar ddiwrnod heulog yr olygfa gyntaf yw mynwent gysglyd, gyda thŵr y gloch a’r to yn sbecian drwy eu hymyl o goed, gyda chefnlen ddramatig Eryri y tu ôl. Y tu mewn byddwch yn dod o hyd i eglwys gyda chymesuredd hardd, yn cael ei goleuo’n naturiol ysblennydd gyda llawer i’w weld, ac nid ychydig o hanes. |
Ymweliad |
Ychwanegwyd at yr eglwys a welwn heddiw, a adeiladwyd yn y 13eg ganrif yn y 14eg a’r 15fed ac aeth drwy atgyfeirio ac adferiad helaeth yn y 19eg
Mae ganddi ffenestri o’r 14eg a’r 15fed ganrif, yn ogystal â gwydr lliw mwy cyfoes, yn cynnwys golygfa o’r croeshoeliad gan Charles Eames Kemp o 1907.
Ceir mynediad i’r fynwent drwy giât ychydig o ffordd i lawr lôn i’r dde fel yr ydych yn dynesu o’r maes parcio. Mae’r daith gerdded drwy’r porth bwaog i’r fynwent ei hun yn teimlo bron yn theatraidd fel y mae’r eglwys ryfeddol o gymesur yn dod i’r golwg ymhlith ei heiddew a’i chofadeiliau o amgylch. Mae popeth, o’i tho teils trawiadol, hyd at ei phorth, at y cwt clychau o’r 14eg ganrif yn burion. '.
Fel yr ydych yn mynd drwy’r porth cymerwch funud i edrych ar y coflechi o bob tu i’r drws. Mae’r rhain yn manylu ar y rhoddion a dalodd am ei hadeiladu yn 1761. Mae’r drws yn siglo’n agored i ddatgelu’n uniongyrchol o’ch blaen y bedyddfaen gwych o’r 12fed ganrif (gyda llaw, cymerwch olwg ar y fecaniaeth glo ddyfeisgar ar gefn y drws!). Mae’r bedyddfaen wedi ei gerfio gyda phatrymau clymwaith celtaidd ardderchog ac ar ei ben ceir gorchudd o farrau haearn sylweddol. Mae gorchudd cynharach dyddiedig 1714 yn cael ei arddangos o dan y gwydr lliw i’r chwith i chi.

O droi i’r dde mae gennych yr olygfa ar hyd corff yr Eglwys tuag at yr allor, gyda’r defnydd gofalus o oleuni naturiol gan ei hadeiladwyr yn rhoi awyrgylch heddychlon iawn. Mae i’r Gangell nenfwd lliwgar a dramatig iawn uwchben golygfa wydr lliw ardderchog o’r croeshoeliad ac allor wedi ei addurno gyda llestri sgleiniog gwych.
O’r 18fed ganrif y daw rhilen y cymun megis bwrdd y cymun ei hun sydd wedi ei nodi a’i ddyddio. Mae’n werth treulio peth amser yn edmygu coed y to sy’n edrych yn aruthrol o hen ac i fod yn onest, mae’n werth dim ond sefyll a chymryd i mewn y defnydd meistrolgar o waliau gwyn a goleuni naturiol, eglwys wirioneddol hardd. Man tawel. Pan fyddwch yn gadael, cymerwch eiliad i aros wrth yr esgynfaen y tu allan i’r giât ac edrychwch yn ôl dros y wal tuiag at yr eglwys. Mwynhewch yr olygfa!
|
|
|
|